Dyn wedi ei arestio ar ôl i gorff mam a'i mab gael eu canfod
- Cyhoeddwyd
Mae mam a'i mab, a fu farw mewn tŷ ger Tremadog, wedi cael eu henwi gan bobl lleol.
Cafodd cyrff Suzanne Jones a'i mab tair oed, William - oedd yn cael ei adnabod yn lleol fel Will, eu darganfod yn y tŷ ym Mhwllgoleulas rhwng Tremadog a Phenmorfa tua 9.20pm nos Wener.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio ar ôl i'r cyrff gael eu canfod.
Dywedodd yr heddlu bod dyn yn ei 40au wedi cael ei arestio yn y tŷ yn Rhes Glanmorfa.
Dydi'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
'Dychryn'
Mae'r heddlu wedi dweud eu bod yn ymdrin â digwyddiad difrifol.
Cafodd teuluoedd y rhai a fu farw wybod am y digwyddiad ac mae'r heddlu yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw.
Mae'r heddlu yn parhau ar y safle.
Y tu allan i'r tŷ mae cyfeillion a chymdogion wedi gosod blodau.
Dywedodd cymydog i'r teulu ei fod wedi dychryn o glywed y newyddion.
"Roedden nhw'n cadw eu hunain i'w hunain," meddai Albert Kreft.
"Mae'n drasig, mae pawb wedi dychryn.
"Roedden ni'n gweld y fam bob dydd yn casglu plant o'r ysgol.
"Mae'n sioc enfawr, ddim yn disgwyl i hyn ddigwydd mewn cymuned glos fel yma."
Dywedodd Dewi Thomas Morris bod y newyddion yn frawychus ac yn dorcalonnus.
"Mae 'na gwmwl du dros y gymuned.
"Mae pawb yn 'nabod ei gilydd ac yn cyd-fyw yn hapus.
"Dydi peth fel yma ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.
"Does 'na ddim geiriau i ddisgrifio'r tristwch."
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un i gysylltu â nhw os oedden nhw ger Rhes Glanmorfa nos Wener neu sydd ag unrhyw wybodaeth am yr hyn sydd wedi digwydd.