Ffordd wedi ail-agor 24 awr wedi damwain angheuol

Damwain lori Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Bu ffordd yr A40 ar gau drwy'r dydd wedi'r ddamwain

Mae ffordd yr A40 ger Hendy-gwyn ar Daf yn Sir Gaerfyrddin wedi ail agor wedi damwain angheuol ddydd Gwener.

Bu farw un gyrrwr wedi'r ddamwain rhwng tair lori.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y ffordd wedi ail agor tua 5.50am ddydd Sadwrn, 24 awr ar ôl y ddamwain.

Mae'r cyngor wedi rhoi wyneb newydd ar y ffordd.

Cafodd dau yrrwr lori arall eu cludo i'r ysbyty ar ôl y gwrthdrawiad.

Bu'r ddamwain ar fryn Pengawse ger Hendy-gwyn ar Daf am 5.40am ddydd Gwener.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod offer hydrolig arbennig wedi ei ddefnyddio i dorri un person yn rhydd.

Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio i'r A477 i Gilgeti a'r A478 trwy Arberth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.