Pwynt yn unig i Gaerdydd wedi gêm gyfartal yn erbyn Millwall

  • Cyhoeddwyd
Joe Mason a Mark TaylorFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Joe Mason yn anelu am gôl Millwall a Mark Taylor

Caerdydd 0-0 Millwall

Roedd angen buddugoliaeth ar Gaerdydd i gadw eu gobeithion o fod yn y safleoedd ar gyfer y gemau ail gyfle ar ddiwedd y tymor ddydd Sadwrn.

Yn Stadiwm Dinas Caerdydd cafwyd gêm gyfartal yn erbyn Millwall.

Gyda'r gêm yn cychwyn amser cinio mae pwynt wedi golygu bod Caerdydd wedi codi i'r seithfed safle cyn y gemau am 3pm.

Dyma bedwaredd gêm gyfartal Yr Adar Gleision yn olynol.

Dim ond dwy gêm o'r 13 diwethaf y maen nhw wedi ennill.

Cafodd Yr Adar Gleision ei rhwystro gan yr ymwelwyr.

Ergydiodd Joe Mason yn yr hanner cyntaf ond cafodd ei chlirio ar y llinell cyn i'w beniad gael ei glirio gan gôl-geidwad Millwall Mark Taylor.

Yn ôl y llumanwr roedd yn camsefyll.

Roedd Aron Gunnarsson i Gaerdydd ac Andy Keogh i'r ymwelwyr hefyd yn camsefyll pan wnaethon nhw ganfod y rhwyd.

Gwastraffodd James Henry gyfle yn y munudau olaf i roi buddugoliaeth i'r ymwelwyr.

Ergydiodd am gôl wag Caerdydd o 12 llath yn aflwyddiannus.

Mae gan Gaerdydd chwe gêm yn weddill.

Fe fydd Caerdydd yn teithio i wynebu Middlesbrough ddydd Sadwrn nesaf, un o'r timau sydd yn safle'r ail chwarae.

Sadwrn Mawrth 31 (2.30pm)