Derwyddon Cefn a'r Seintiau Newydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae Derwyddon Cefn wedi sicrhau eu lle yn rownd derfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 108 mlynedd.
Fe fyddan nhw'n wynebu Y Seintiau Newydd.
Collodd Derwyddon Cefn i Wrecsam yn rownd derfynol y gystadleuaeth gyntaf yn 1878.
Ers hynny mae tîm pêl-droed hynaf Cymru wedi ennill y gwpan wyth gwaith.
Dydd Sadwrn fe wnaethon nhw guro Airbus o 4 gôl i 1 yn Y Belle View, Y Rhyl.
Ergydiodd Tony Cann ddwywaith i'r Derwyddon yn ogystal ag Andy Swarbrick.
Tu allan i'r adran
Daeth gôl i'w rwyd ei hun gan Danny Taylor cyn yr egwyl i roi mantais i'r Derwyddon cyn i Mark Griffiths gael gôl i'w rwyd ei hun i roi gôl gysur i Airbus.
Dyma'r tro cyntaf i dîm o'r tu allan i'r brif adran gyrraedd y rownd derfynol ers Lido Afan yn 2007.
Colli wnaeth Y Bala o 4 gôl i 0 yn erbyn Y Seintiau Newydd yng Nghoedlan y Parc, Aberystwyth.
Dydi'r Bala ddim wedi bod yn y rownd derfynol o'r blaen.
Y sgorwyr i'r Seintiau Newydd oedd Nicky Ward wedi wyth munud cyn i Greg Draper sgorio pedwar munud yn ddiweddarach ac fe wnaeth Ryan Fraughan ganfod y rhwyd yn yr hanner cyntaf.
Aeron Edwards gafodd yr unig gôl yn yr ail hanner.
Cafodd Lee Hunt o'r Bala ddau gerdyn melyn a'i anfon oddi ar y cae gyda chwarter awr yn weddill.
Fe fydd y rownd derfynol ar Fai 5 yn Stadiwm Nantporth Bangor am 2pm.
Canlyniadau
Derwyddon Cefn 4-1 Airbus
Bala 0-4 Y Seintiau Newydd