Y Drenewydd 2-1 Caerfyrddin

Y ddau dîm ar waelod y gynghrair oedd yn wynebu ei gilydd yn yr unig gêm yn Uwchgynghrair Cymru ddydd Sadwrn.

Colli oedd hanes Caerfyrddin wrth iddyn nhw deithio i'r Drenewydd.

Y tîm cartref aeth ar y blaen wrth i Luke Boundford sgorio wedi 58 munud.

Daeth eu hail gôl wedi 70 munud ar ôl i Nick Rushton ergydio.

Cafodd yr ymwelwyr gôl gysur naw munud cyn diwedd y gêm wrth i Nick Harrhy sgorio.

Canlyniadau:

Dydd Sadwrn:

Y Drenewydd 2-1 Caerfyrddin

TABL UWCHGYNGRHAIR CYMRU

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Y Seintiau Newydd 29 +38 67
2. Bangor 29 +28 63
3. Castell-nedd 29 +29 59
4. Llanelli 28 +20 49
5. Y Bala 28 +10 46
6. Prestatyn 29 -19 28
----------------------------------------------------------------
7. Airbus 28 0 35
8. Lido Afan 28 -6 32
9. Port Talbot 28 -12 28
10. Aberystwyth* 28 -9 24
11. Caerfyrddin 29 -37 23
12.Y Drenewydd* 29 -42 19
* - Y Drenewydd yn ildio 3 phwynt ac Aberystwyth yn ildio 1 am fod â chwaraewyr nad oedd yn gymwys.

Mawrth 31 2012

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.