Gêm gyfartal i Wrecsam a Chasnewydd yn ennill
- Cyhoeddwyd

Caergrawnt 1-1 Wrecsam
Casnewydd 1-0 Gateshead
Fe wnaeth Wrecsam ildio rhagor o dir ar frig Uwchgynghrair Blue Square.
Gêm gyfartal gafodd y Dregiau ar ôl teithio i Gaergrawnt.
Fe enillodd Fleetwood, sydd ar frig y gynghrair eto.
Mae Wrecsam wyth pwynt y tu ôl iddyn nhw.
Daeth gôl Robert Ogelby wedi 90 munud i roi pwynt pwysig i Wrecsam.
Roedd Caergrawnt wedi mynd ar y blaen wedi 48 munud gyda gôl gan Tom Shaw.
Buddugoliaeth
Mae gan Wrecsam gêm mewn llaw.
Cafodd Casnewydd fuddugoliaeth adref ar ôl curo Gateshead o gôl i ddim.
Ryan Charles gafodd y gôl.
Mae'r fuddugoliaeth yn rhoi hwb i Gasnewydd aros yn y Gynghrair y tymor nesaf.
Roedd Gateshead lawr i 10 dyn ar ôl i Carl Magnay gael ei anfon oddi ar y cae wedi 41 munud wedi penderfyniad dadleuol a hynny ar ei ymddangosiad cyntaf.
Mawrth 31 2012