Lido Afan yn y rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru
- Cyhoeddwyd
Roedd Lido Afan a Chastell-nedd yn wynebu ei gilydd yn ail gymal rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Cymru.
Castell-nedd aeth ar y blaen wedi hanner awr wrth i Craig Hughes sgorio.
Ond daeth Lido Afan yn ôl wedi'r hanner wrth i Daniel Thomas a Carl Payne rwydo o fewn tri munud.
Roedd Castell-nedd i lawr i 10 dyn am y chwarter awr olaf wedi i Joe Holt dderbyn cerdyn coch.
Ar ôl y ddau gymal Lido Afan oedd yn fuddugol o 3-1.
Fe fyddan nhw'n wynebu unai'r Drenewydd neu'r Seintiau Newydd yn y rownd derfynol.
Canlyniadau:
Dydd Sadwrn:
Lido Afan 2-1 Castell-nedd (Lido Afan yn ennill o 3-1 dros y ddau gymal)
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol