Pwynt bonws i'r Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Adam JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Adam Jones o'r Gweilch yn ystod y gêm yn erbyn Treviso

Y Gweilch 41-10 Treviso

Cafodd Y Gweilch fuddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Treviso yn Stadiwm Liberty nos Sadwrn.

Llwyddodd y tîm cartref i ennill pwynt bonws yng Nghynghrair y Pro12.

Mae hynny yn golygu bod y rhanbarth yn ôl yn y safle ail chwarae.

Cafodd Ashley Beck ddau gais wrth i Paul James, Joe Bearman a Tom Isaacs groesi hefyd.

Daeth 16 o bwyntiau gan Dan Biggar wrth iddo drosi'r ceisiau a llwyddo gyda dwy gic gosb.

Cafodd Yr Eidalwyr gais diolch i waith Ludovico Nitoglia cyn i Alberto Di Bernardo drosi.

Cafodd Kris Burton gic gosb i'r ymwelwyr hefyd.

TABL RABODIRECT PRO 12

Mawrth 31 2012