Henson yn ymddiheuro ar ôl i'r Gleision ei wahardd wedi honiadau o gamymddwyn
- Cyhoeddwyd
![Gavin Henson [canol]](https://ichef.bbci.co.uk/news/304/mcs/media/images/59419000/jpg/_59419390_cdf_240212_munster_v_blues_10.jpg)
Mae Gavin Henson wedi cyhoeddi datganiad sy'n ymddiheuro am ei ymddygiad wedi taith awyren o'r Alban.
Daw'r ymddiheuriad ar ôl i'w glwb, Gleision Caerdydd, ei wahardd wedi honiadau o gamymddygiad ar daith awyren yn gynnar bore Sadwrn o Glasgow.
Roedd Henson yn eilydd i'r Gleision nos Wener pan wnaethon nhw golli yn erbyn Glasgow o 31-3.
Yn ei ddatganiad ddydd Sul dywedodd y chwaraewr 30 oed, ei fod yn ymddiheuro am yfed ac o ymddwyn yn "amhriodol" ar y daith awyren.
Mae o hefyd wedi dweud ei fod yn "cywilyddio am yr hyn ddigwyddodd".
Yn eu datganiad nos Sadwrn fe wnaeth Y Gleision gyhoeddi bod y gwaharddiad yn cychwyn yn syth.
"Gall Gleision Caerdydd gadarnhau bod Gavin Henson wedi cael ei wahardd, a hynny yn syth, wedi digwyddiad ar daith yn ôl o'r Alban wedi gêm yn erbyn Glasgow nos Wener."
Fe fydd rheolwyr Y Gleision yn cyfarfod ddydd Llun "i drafod y mater ym mhellach".
Mae'r cwmni teithio Flybe hefyd yn cynnal ymchwiliad.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni awyren: "Mewn cysylltiad â thaith BE3431 o Glasgow i Gaerdydd ar Fawrth 31, gall Flybe gadarnhau eu bod yn casglu gwybodaeth gan eu staff yn ogystal â staff yn y ddau faes awyr.
"Fyddwn ni ddim yn gwneud unrhyw sylw pellach ar hyn o bryd."
Absenoldeb
Fe wnaeth Henson arwyddo cytundeb wyth mis gyda'r Gleision ym mis Hydref ar ôl i glwb Toulon yn Ffrainc ddewis peidio ymestyn ei gytundeb ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Mae Henson, sydd wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith gyda Chymru, wedi methu a sicrhau lle cyson mewn timau ers anafu ei ffêr ym mis Mawrth 2009.
Pum mis yn ddiweddarach fe wnaeth o gymryd 18 mis o absenoldeb di-dâl o'r Gweilch.
Ymunodd a thîm y Saraseniaid ym mis Hydref 2010 gan chwarae pedair gêm yn unig cyn iddo wneud cais i ddod a'i gytundeb i ben er mwyn iddo allu ymuno â Toulon.
Sgoriodd gais ym muddugoliaeth y tîm yn erbyn Stade Francais ar ei ymddangosiad cyntaf cyn cael ei wahardd am gyfnod byr am dorri cod ymddygiad y clwb.
Ond cafodd y gosb ei godi wedi ymchwiliad mewnol.
Ers symud yn ôl i Gymru mae o wedi chwarae wyth gêm ond dyw e ddim wedi sgorio cais.
Chwaraeodd dros Gymru ddiwethaf ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Lloegr o 19-9 yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Awst.
Roedd anaf i'w arddwrn yn golygu nad oedd modd iddo chwarae ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd yn Seland Newydd.
Straeon perthnasol
- 18 Hydref 2011
- 24 Mai 2011
- 28 Hydref 2011
- 16 Rhagfyr 2011
- 14 Awst 2011
- 13 Awst 2011
- 14 Mehefin 2011
- 13 Rhagfyr 2010
- 1 Ebrill 2009
- 19 Chwefror 2009