Lluniau: Awr Ddaear ym Mhontypridd
- Cyhoeddwyd

Enillodd disgyblion Ysgol Gymraeg Evan James ym Mhontypridd gystadleuaeth ysgrifennu stori fer gyda WWF a phrif bartneriaid Awr Ddaear 2012, More Than.

Eu gwobr oedd arwain yr Awr Ddaear drwy'r DU drwy orymdeithio drwy'r dref yng ngolau cannwyll
Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) oedd yn arwain yr Awr Ddaear
Roedd canol tref Pontypridd mewn tywyllwch am yr awr nos Sadwrn
Cafodd canhwyllau eu goleuo i nodi'r Awr Ddaear gan y disgyblion
Roedd rhai o ddisgyblion Ysgol Evan James wedi addurno eu hwynebau ar gyfer y digwyddiad nos Sadwrn