Diwrnod cyntaf Meri Huws fel Comisiynydd y Gymraeg

Meri Huws Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Meri Huws yw Comisiynydd Iaith cyntaf Cymru

Mae Meri Huws wedi cychwyn ar ei gwaith fel y Comisiynydd cyntaf ar gyfer yr iaith Gymraeg.

Ym mis Hydref cafodd Ms Huws, cyn-gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ei phenodi i'r swydd newydd.

Fe ddaeth y swyddfa i rym yn swyddogol ar Ebrill 1, a dechreuodd Ms Huws yn ei rôl ddydd Llun.

O fewn y swydd, fe fydd ganddi bwerau i warchod hawliau siaradwyr Cymraeg i gael gwasanaethau yn yr iaith.

Bydd y comisiynydd yn delio â chwynion aelodau'r cyhoedd am sefydliadau a busnesau y mae'r ddeddfwriaeth yn effeithio arnyn nhw.

Ar ei diwrnod swyddogol cyntaf, fe wnaeth y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, ddymuno'n dda i Ms Huws.

'Gweledigaeth'

"Dyma ddiwrnod arwyddocaol iawn i ddyfodol y Gymraeg," meddai.

"Bydd gan Gomisiynydd y Gymraeg rôl allweddol wrth gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau bod yr iaith yn parhau'n iaith egnïol a ffyniannus.

"Bydd hi'n hyrwyddwr cadarn ac egnïol dros y Gymraeg - ac yn cydweithio â sefydliadau er mwyn cynyddu nifer y gwasanaethau sydd ar gael yn y Gymraeg.

"Bydd hefyd yn creu rhagor o gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau pob dydd."

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Bethan Williams: "Gobeithiwn y bydd yn cymryd y cyfle i wneud y newidiadau sylweddol sydd angen er lles y Gymraeg.

"Gyda chonsensws trawsbleidiol ac ymysg cymdeithas sifil dros sefydlu'r swydd, mae gyda hi gyfle euraid i ddechrau o'r newydd a sicrhau fod y system newydd hon yn blaenoriaethu pobl.

'Gwelliannau sylweddol'

"Er bod nifer o wendidau yn y gyfundrefn a sefydlir yn y Mesur, gydag ewyllys da ac ymroddiad clir gan y Comisiynydd a'r Llywodraeth gallan nhw wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Gwahaniaeth a fydd yn galluogi pobl i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg o ddydd i ddydd.

"Dylem weld gwelliannau sylweddol i wasanaethau ar gyfer siaradwyr Cymraeg yn ogystal ag eraill, megis dysgwyr a rhieni gyda phlant mewn addysg Gymraeg."

Dywedodd ei bod yn disgwyl i'r Comisiynydd fod yn llais annibynnol dros y Gymraeg ac i roi buddiannau pobl Cymru yn gyntaf.

O ganlyniad i sefydlu Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi dod i ben.

Mae'r gwaith oedd y Bwrdd yn ei wneud wedi ei rannu rhwng Swyddfa'r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru.

Straeon perthnasol