Amgueddfa forwrol yn cau am byth
- Cyhoeddwyd

Fe fydd amgueddfa forwrol yng Ngwynedd yn cau'r drws am byth wrth i'r elusen sy'n ei rheoli ddod i ben.
Gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am amgueddfa forwrol Seiont II yn Noc Fictoria, Caernarfon.
Mae'n debygol y bydd Cyngor Gwynedd yn cymryd gofal o'r eitemau er y bydd eitemau sydd ar fenthyg yn dychwelyd i'r perchnogion.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor bod y penderfyniad i gau yn siomedig ond eu bod yn deall yr anawsterau.
"Mae'r cyngor wedi bod yn cefnogi'r ymddiriedolwyr wrth iddyn nhw symud ymlaen i ddod â'r cyfan i ben," meddai llefarydd.
"Mae'n bosib y bydd y rhan fwyaf o eitemau'r amgueddfa yn cael eu trosglwyddo i Wasanaeth Amgueddfeydd Cyngor Gwynedd."
Dywedodd bod trafodaethau yn parhau am y posibilrwydd o arddangos eitemau o fewn rhwydwaith amgueddfeydd ac orielau Gwynedd yng Nghaernarfon a Bangor.
"Yr hyn sy'n bwysig i'r cyngor yw bod y casgliadau yn cael eu diogelu," ychwanegodd.
"Rydym am roi teyrnged i waith y gwirfoddolwyr a'r ymddiriedolwyr sydd wedi gweithio yn ddiflino yn yr amgueddfa dros y blynyddoedd."