Dyn wedi'i gadw'n y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr heddlu eu galw i'r tŷ nos Wener am 9.20pm
Mae dyn 42 oed yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio ei wraig a'u mab dyflwydd oed.
Fe ymddangosodd David Wyn Jones yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun wedi i gyrff Suzanne Marie Jones a William Wyn Jones gael eu darganfod yn eu cartre' ym Mhwllgoleulas ger Tremadog nos Wener.
Mewn gwrandawiad a barodd lai na 10 munud fe siaradodd y diffynnydd deirgwaith wrth gadarnhau ei enw, ei oedran a'i gyfeiriad.
Bydd yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesa' yn Llys y Goron Caernarfon brynhawn dydd Llun.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol