Cyngor yn rhoi sêl bendith i godi gwesty ar iard sgrap

  • Cyhoeddwyd
Hen safle iard sgrap Jacques yn WrecsamFfynhonnell y llun, bbc
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r cynlluniau yn cynnwys gwesty 83 gwely a maes parcio oddi ar Ffordd Yr Wyddgrug

Mae cynghorwyr wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau i godi gwesty 83 gwely ar safle hen iard sgrap yn Wrecsam.

Yn ôl yr adeiladwyr Worthington Properties, bydd y datblygiad Premier Inn yn creu 33 o swyddi llawn a rhan amser.

Roedd arbenigwyr wedi argymell cymeradwyo'r cynllun £6 miliwn ar amodau.

Penderfynodd aelodau pwyllgor cynllunio cyngor Wrecsam gymeradwyo'r argymhelliad ar yr amod fod cofadail hynafol Clawdd Wat gerllaw yn cael ei gwarchod.

Mae'r fadfall gyffredin hefyd wedi'i chanfod yn byw ar y safle, a bydd y datblygiad yn gorfod ei gwarchod hithau.

Mae 'na farn anghyson am union ddyddiad y clawdd, y 5ed neu'r 6ed ganrif.

Dywedodd Cadw - y corff sy'n gofalu am henebion Cymru - eu bod yn credu y byddai'r cynllun yn cael effaith gadarnhaol ar y clawdd a'i sefydlu fel atyniad allweddol.

Mae disgwyl i'r gwaith ar yr adeilad pedwar llawr ar Stryd Regent, ger gorsaf reilffordd y dre', i ddechrau ym mis Gorffennaf.

Y bwriad yw cwblhau'r datblygiad o fewn blwyddyn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol