Tottenham Hotspur 3-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Tottenham Hotspur 3-1 Abertawe
Mae Abertawe wedi gostwng un lle yn y tabl wedi iddyn nhw gael eu trechu yn White Hart Lane ddydd Sul.
Mae'r fuddugoliaeth i Spurs yn cadw eu gobeithio o chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr yn fyw.
Tottenham Hotspur aeth ar y blaen wedi 19 munud wrth i Rafael van der Vaart ganfod cefn y rhwyd.Er mai Spurs oedd y tîm cryfa' yn yr hanner cyntaf fe wnaeth Abertawe reoli dechrau'r ail hanner.
Ac fe ddaeth yr ymwelwyr yn gyfartal gyda gôl gan Gylfi Sigurdsson wedi 59 munud.
Ond fe wnaeth y tîm cartref daro'n ôl gyda dwy gôl gan Emmanuel Adebayor (73 munud a 86 munud).
Mae'r Elyrch erbyn hyn yn 11 yn y tabl.
Roedd y tîm cartref wedi cael dwy gêm gyfartal cyn hyn ac wedi eu buddugoliaeth mae tîm Harry Redknapp yn gyfartal o ran pwyntiau gyda Arsenal.
Tabl Uwchgynghrair Barclays
Straeon perthnasol
- 1 Ebrill 2012