Ymchwiliad wedi lladrad o lori yn Rhydaman
- Cyhoeddwyd

Roedd y drosedd tua 4.30am ddydd Sul
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ladrad yn Sir Gaerfyrddin dros y penwythnos.
Cafodd gyrrwr lori o'r Almaen, oedd yn cysgu yn ei gerbyd, ei ddeffro yn oriau mân y bore gan ddau ddyn â batiau pêl fas yn mynnu cael arian.
Yn ôl yr heddlu, roedd hyn yn Heol Pantyffynnon, Rhydaman, tua 4:30am ddydd Sul.
Mae'n debyg bod y lladron honedig rhwng 20-25 oed, rhwng 5 troedfedd 6 modfedd - 5 troedfedd 11 modfedd (1.7-1.80m) o daldra.
Roedd gan un wyneb crwn, a'r llall â gwallt tywyll byr oedd wedi'i gribo yn ôl neu i fyny. Roedd gan hwnnw wyneb hir tenau.
Mae plismyn yn apelio am dystion.