Morgannwg mewn sefyllfa gref
Mae Morgannwg mewn sefyllfa gref ar ddiwedd ail ddiwrnod eu gêm gyfeillgar yn Rhydychen yn erbyn Prifysgol Rhydychen.
Huw Waters a Jim Allenby ddisgleiriodd gyda'r bêl wrth i Rydychen gael eu bowlio allan am 123.
Cymrodd Waters bedair wiced am 12 rhediad mewn 18 pelawd a chymrodd Allenby dair wiced am un rhediad mewn 11 pêl.
Erbyn diwedd y dydd cyrhaeddodd Morgannwg 105 am un wiced ar ôl penderfynu peidio â gofyn i Rydychen ddilyn ymlaen.
Cyfraniadau gwerthfawr
Sgoriodd Morgannwg 367 am saith wiced cyn cau'r batiad yn eu batiad cyntaf.
Mark Wallace, a sgoriodd 122, oedd y seren efo'r bat a chafwyd cyfraniadau gwerthfawr gan Gareth Rees (46), Moises Henriques (28) a Graham Wagg (60).
Ddydd Sadwrn Stewart Walters oedd y batiwr cyntaf ym Mhrydain i gael ei ddisodli mewn gêm ddosbarth cyntaf ym mis Mawrth.
Sgôr diweddaraf: Morgannwg v PMCC Rhydychen (Diwedd yr ail ddiwrnod)
Morgannwg (batiad cyntaf) 367-7
PMCCU Rhydychen (batiad cyntaf) 123
Morgannwg (ail fatiad) 105-1