Y Groes Goch i ddiswyddo naw o bobl ym Machynlleth
- Cyhoeddwyd

Mae naw o bobl yn debygol o golli eu gwaith pan fydd gwasanaeth gofal i oedolion bregus yn cau yn y canolbarth ym mis Mehefin eleni.
Roedd gwasanaeth y Groes Goch yn y Ganolfan Gofal ym Machynlleth i fod i ddod i ben ddiwedd mis Mawrth.
Ond gofynnodd Cyngor Powys i'r elusen barhau i gynnal y gwasanaeth am dri mis arall wrth i'r awdurdod geisio darganfod sefydliad arall i ddarparu'r gwasanaeth.
Mae adran gofal cymdeithasol y cyngor sir sy'n talu am gost y ganolfan ddydd.
'Penderfyniad strategol'
Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan fod y gwasanaeth yn galluogi chwech o bobl fregus gael eu cludo i'r adeilad o bentrefi cyfagos i dderbyn pryd o fwyd, bath a chael cyfle i gymdeithasu.
"Dwi ddim yn gwybod beth maen nhw'n mynd i wneud pe na bai rhywun yn cymryd lle'r Groes Goch," meddai.
"Fydd yr adeilad ddim yn cau ond rydym yn gobeithio y bydd rhywun arall yn cymryd lle'r Groes Goch."
Dywedodd Uwch-reolwr Y Groes Goch, Nigel Davies, fod yr elusen wedi cytuno â Chyngor Powys i ddarparu'r gwasanaeth tan ddiwedd mis Mehefin eleni.
"Mae hwn yn benderfyniad strategol fydd yn ein galluogi i helpu mwy o bobl yn eu cartrefi eu hunain.
"Ar hyn o bryd rydym yn darparu'r gwasanaeth hwn mewn lleoliadau eraill ym Mhowys a ledled Cymru.
"Rydym yn darparu gofal argyfwng tymor byr yn dilyn damwain neu salwch gan roi'r hyder i bobl barhau gyda'u bywydau dyddiol a lleihau'r amser maen nhw'n gorfod aros yn yr ysbyty.
"Gall y gwasanaeth gael ei drosglwyddo i ddarparwr arall am nad yw'r gwasanaeth gofal dyddiol hwn yn cael ei ariannu gan y Groes Goch.
"Ein blaenoriaeth yw bydd y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yn dal i dderbyn y cymorth a gofal maen nhw'n eu hangen.
"Yn anffodus mae'r penderfyniad i ddod i ben â'r gwasanaeth yn golygu y bydd naw aelod o staff y Groes Goch yn colli eu gwaith.
Dywedodd rheolwr Gwasanaethau Oedolion Cyngor Powys, Sue O'Grady: "Bydd y cyngor yn gwneud trefniadau dros dro i ddarparu'r un gwasanaethau i ddefnyddwyr wrth lunio cynlluniau ar gyfer y tymor hir.
"Ein blaenoriaeth yw cynnal yr un lefel o wasanaeth i ddefnyddwyr trwy ddefnyddio darparwr gwahanol yn y tymor byr ac yn y tymor hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2010