Dyn 77 oed wedi marw yn ei gar
- Cyhoeddwyd
Bu farw dyn 77 oed o ardal Caernarfon ar ôl syrthio'n anymwybodol yn ei gar dros y penwythnos.
Roedd ar ddiwrnod allan gyda'i fam 107 oed ar y pryd.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ger canolfan y mae Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn ei defnyddio yn Eryri brynhawn Sul.
Er bod tri aelod o'r tîm wedi ceisio ei adfywio roedd eu hymdrechion yn ofer.
Cafodd ei fam ei chludo i'r ganolfan i gael ei chysuro.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod am y farwolaeth.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol