Lleidr: Apêl am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio ar ôl i ddyn geisio dwyn arian o siop fetio ddydd Sul.
Fe aeth y dyn, oedd yn gwisgo mwgwd du, i'r siop ym Mhentywyn am 3.15pm a bygwth aelod o staff.
Roedd cwsmeriaid eraill yn y siop ac fe wnaeth y lleidr ffoi yn waglaw.
"Diolch byth, ni chafodd unrhyw un niwed ond yn amlwg mae'r weithwraig wedi cael braw," meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
Roedd y dyn yn gwisgo sbectol haul, top glas a gwyn a thrywsus tywyll.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 02920 527444 neu taclo'r tacle ar 0800 555 111.