Achos rhyw: Carcharu dyn

Llys y Goron Caernarfon Image copyright Other
Image caption Roed yr achos yn Llys y Goron Caernarfon

Mae dyn 40 oed o Fae Colwyn wedi ei garcharu am bedair blynedd am ymyrryd yn rhywiol â bachgen 14 oed.

Yn Llys y Goron Caernarfon cafwyd Barry Hardern yn euog o weithgarwch rhywiol â phlentyn.

Dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC: "Mae'r ddedfryd yn adlewyrchu bod yna rywfaint o ganiatâd wedi ei roi yn ystod yr hyn ddigwyddodd.

"Ond roedd yn fachgen ifanc."

Yn ôl William Beardmore ar ran yr amddiffyniad, roedd Hardern yn ddyn busnes a'i fusnes wedi methu ar ôl 10 mlynedd.

Ychwanegodd mai dim ond unwaith yn unig y digwyddodd y gweithgarwch rhywiol.