Asiantaeth Ffiniau: Arestio naw
- Cyhoeddwyd
Cafodd naw o bobl sydd wedi eu hamau o fod yn fewnfudwyr anghyfreithlon eu harestio wedi iddyn nhw gael eu gweld yn dod oddi ar lori ger canolfan arddio ym Mhowys.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i ganolfan Dingle ger Y Trallwng tua 1.15pm, ddydd Iau Mawrth 29, yn dilyn adroddiadau bod nifer o bobl wedi'u gweld yn dod oddi ar lori yno.
Cafodd y naw eu cludo i orsaf yr heddlu yn y Drenewydd, cyn cael eu holi gan Asiantaeth Ffiniau'r DU.
Mae'r naw yn cynnwys pum dyn a dwy fenyw o Iran, dyn o Dwrci a dyn o Syria.
Mae un o'r dynion o Iran wedi'i drosglwyddo i ganolfan fewnfudo nes y bydd yn cael ei symud o'r DU.
Bydd yn rhaid i'r wyth arall gyflwyno'u hunain i'r Asiantaeth Ffiniau yn rheolaidd tra bod eu hachosion yn cael eu harolygu.
Dywedodd llefarydd ar ran Asiantaeth Ffiniau'r DU: "Rydym yn gweithio'n agos gyda'r heddlu i daclo mewnfudo anghyfreithlon a throseddau mewnfudo.
"Rydym yn cymryd camau i ddiarddel y rheiny nad oes hawl cyfreithiol ganddynt i aros yn y Deyrnas Unedig."