Y Gleision yn diswyddo Henson
- Cyhoeddwyd

Mae Gleision Caerdydd wedi diswyddo'r chwaraewr rygbi, Gavin Henson, wedi digwyddiad honedig ar awyren fore dydd Sadwrn.
Ar ôl i reolwyr y rhanbarth gwrdd ddydd Llun fe gadarnhawyd y byddai'r chwaraewr 30 oed, sydd wedi ennill 34 cap dros Gymru, yn cael ei ddiswyddo'n syth.
Mae wedi ymddiheuro am yfed gormod o alcohol wrth i'w dîm deithio'n ôl i Gymru wedi gêm yn erbyn Glasgow nos Wener.
Eisoes mae cwmni Flybe wedi ei wahardd rhag teithio gyda'r cwmni am chwe mis.
'Annerbyniol'
Dywedodd Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland: "Mae rheolwyr Gleision Caerdydd wedi trafod y mater yn drylwyr ac wedi ymateb yn gyflym ers y digwyddiad fore Sadwrn.
"Roedd Gavin wedi cyfaddef fod ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol ac mae'r ffaith fod ei gytundeb yn cael ei ddileu'n syth yn rhoi neges glir na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei dderbyn gan y Gleision.
"Mae dyletswydd arnon ni i'n cefnogwyr a'n noddwyr i amddiffyn enw da Gleision Caerdydd a phawb sy'n gysylltiedig â'r brand."
Roedd y chwaraewr wedi arwyddo cytundeb wyth mis gyda'r Gleision ym mis Hydref y llynedd.
Fe ychwanegodd y rhanbarth fod Henson yn amlwg yn chwaraewr rygbi talentog a'i bod hi'n "anffodus" fod ei yrfa gyda'r rhanbarth yn dod i ben yn y fath fodd.
Ond fe ddiolchon nhw iddo am ei wasanaeth, gan ddymuno pob lwc iddo yn y dyfodol.
Straeon perthnasol
- 2 Ebrill 2012
- 1 Ebrill 2012
- 16 Rhagfyr 2011
- 28 Hydref 2011
- 18 Hydref 2011