BBC Cymru Fyw

Dyn wedi'i gadw'n y ddalfa ar amheuaeth o lofruddio

Published
image copyrightOther
image captionSuzanne Jones a'i mab William
Mae dyn 42 oed yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio ei wraig a'u mab dyflwydd oed.
Roedd David Wyn Jones yn Llys y Goron Caernarfon brynhawn Llun wedi i gyrff Suzanne Marie Jones a William Wyn Jones gael eu darganfod yn eu cartre' ym Mhwllgoleulas ger Tremadog nos Wener.
Bydd yn y ddalfa tan Fehefin 11.
Cyn y gwrandawiad dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd Neill Anderson: "Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Suzanne a William yn ystod y cyfnod anodd hwn.
"Mae plismyn arbenigol yn cysuro a chefnogi aelodau'r teulu a dylid parchu eu preifatrwydd."
Dywedodd mam Mrs Jones, Eileen Holt: "Mi fyddwn ni oll yn colli Sue a Wil.
"Mi oedd Sue'n fam a merch ffantastig a Wil yn fachgen bach hyfryd ... rydan ni'n canolbwyntio ar ofalu am ein hwyresau."
Mae blodau wedi eu gadael y tu allan i'r tŷ.