BBC Cymru Fyw

Y Wladfa: Anrhydeddu yr Athro Robert Owen Jones

Published
image copyrightNot Specified
image captionRobert Owen Jones: Agwedd at y Gymraeg wedi newid
Mae academydd, sydd wedi arwain dau brosiect ymchwil yn ymwneud â'r gymuned Gymraeg ym Mhatagonia, yn derbyn yr OBE ddydd Mawrth.
Erbyn hyn, mae Robert Owen Jones o Bontarddulais yn Athro Emeritws yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a rhwng 2004 a 2007 roedd yn arwain dau brosiect noddwyd gan Leverhulme.
Ei brif ddiddordebau ymchwil yw cymdeithaseg iaith, sosio-ieithyddiaeth, tafodieitheg, ieithoedd lleiafrifol, dysgu ail iaith a lle hynny ym mhrosesau cynllunio ieithyddol.
Dywedodd mai'r sbardun i'r diddordeb yn y Gymraeg ym Mhatagonia oedd cynllun y Cyngor Prydeinig i anfon athrawon Cymraeg yno gyda Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y gost.
Cafodd y cynllun dysgu Cymraeg ei sefydlu yno yn 1997 ac arweiniodd at gynnydd mawr yn nifer y rhai sy'n mynd i ddosbarthiadau Cymraeg yn Y Wladfa.

'Codi calon'

Eisoes mae wedi cyfeirio at y modd y mae'r agwedd at y Gymraeg wedi newid yno.
"Mae yna lot o bethau yn codi calon dyn," meddai.
"Mae'r hen syniad o israddoldeb a chywilydd o fedru siarad Cymraeg wedi mynd - mae llawer mwy o barch at yr iaith erbyn hyn.
"Ond dydi'r gwaith ddim yn dalcen hawdd ac mae'r athrawon wedi gwneud yn arbennig o dda gydag adnoddau prin ryfeddol.
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionPan dreuliodd Robert Owen Jones flwyddyn yn astudio'r Gymraeg yn y Wladfa yn 1973-4 fe'i hargyhoeddwyd ei fod yn dyst i'w marwolaeth
"Nid mater hawdd yw mynd allan yno. Y mae'n fater o newid patrwm bywyd yn gyfan gwbl", meddai.
Gallai'r patrwm hwnnw olygu cynnal dosbarth cyntaf y dydd rhwng saith a naw'r bore a'r olaf cyn hwyred â naw'r nos.
"Ac y mae llawer mwy o waith i'w wneud eto," rhybuddiodd.
"Nid yno i chwarae gyda'r iaith y maen nhw ond yno i greu pobl ddwyieithog," meddai.

Miloedd

Pan dreuliodd flwyddyn yn astudio'r Gymraeg yno yn 1973-4 fe'i hargyhoeddwyd ei fod yn dyst i'w marwolaeth.
Ond dros y pymtheng mlynedd diwethaf mae miloedd wedi bod i ddosbarthiadau Cymraeg.
Cyn 1997 tenau iawn ydoedd niferoedd dysgwyr yno. Yn 2011 cyflawnwyd 263 awr o wersi Cymraeg yr wythnos ac roedd 846 yn mynychu'r dosbarthiadau.
Datblygodd addysg gynradd drwy gyfrwng y Gymraeg gyda sefydlu Ysgol yr Hendre yn Nhrelew.

Straeon perthnasol

  • Seren aur i addysg yn y Wladfa