Denu'r miloedd
- Cyhoeddwyd

Aeth 1.7m o ymwelwyr i saith amgueddfa genedlaethol Cymru yn 2011-12, y nifer uchaf ers i bolisi mynediad am ddim cael ei gyflwyno yn Ebrill 2001.
Fe lwyddodd Amgueddfa Wlân Cymru yn Nrefach Felindre ger Castell Newydd Emlyn i ddenu dros 30,000 o ymwelwyr am y tro cyntaf erioed.
Ers 2000-01 mae ystadegau ymwelwyr yr amgueddfa yn Nyffryn Teifi wedi codi 236%.
Yng Ngorffennaf 2011 agorodd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol ar lawr cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Roedd 50,485 yn fwy o ymwelwyr (+13.7%) yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn 2011-12 o'i gymharu â 2010-11.
Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Mae'n ffigyrau ymwelwyr diweddaraf yn wych.
'Yn falch'
"Diolch i weledigaeth a chefnogaeth ariannol barhaus Llywodraeth Cymru rwy'n falch taw Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i'w gwneud hi'n haws i bawb ymweld ag amgueddfeydd.
"Mae Amgueddfa Cymru wedi treulio cryn dipyn o amser ac egni yn sicrhau bod ei gwaith cyfathrebu a marchnata yn seiliedig ar ffurfio a gweithredu cynlluniau datblygu cynulleidfaoedd ...
"Bu cydbwysedd rhwng cwrdd ag anghenion a disgwyliadau ymwelwyr cyson, teyrngar â denu cynulleidfaoedd newydd yn hanfodol o ran cynyddu nifer yr ymwelwyr ac o fewn y cyfanswm hwnnw i gynyddu nifer yr ymwelwyr o gefndir C2, D ac E."
Dywedodd taw Amgueddfa Cymru oedd y darparwr mwyaf yng Nghymru o addysg ffurfiol tu hwnt i'r dosbarth, gan ddod ag addysg yn fyw i dros 230,000 o fyfyrwyr a disgyblion bob blwyddyn.
'Cynulleidfaoedd newydd'
Mae Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, wedi dweud: "Llongyfarchiadau i Amgueddfa Cymru am y llwyddiant bendigedig hwn.
"Yn sicr, mae'r polisi mynediad am ddim wedi bod yn boblogaidd gydag ymwelwyr amgueddfa traddodiadol - ond yr hyn sydd wedi fy mhlesio fwyaf yw'r ffaith ein bod ni wedi ei gwneud hi'n haws i gynulleidfaoedd newydd ddod i'r amgueddfeydd yn ogystal ag annog twristiaid i ymweld â Chymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2011