Dyn wedi marw a llanc wedi'i anafu wedi damwain

Bu farw beiciwr modur 42 oed, a chafodd ei deithiwr 16 oed anafiadau difrifol, wedi i'w beic daro yn erbyn car yn Sir y Fflint.

Mae'n debyg bod y llanc yn ei arddegau mewn cyflwr sefydlog yn Ysbyty Caer yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Linthorpe, Y Bwcle, brynhawn dydd Llun.

Roedd y gwrthdrawiad rhwng car Hyundai Getz a beic modur Suzuki.

Roedd y dyn a fu farw'n byw yn lleol.

Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am dystion i'r digwyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.