Dyn wedi'i drywanu mewn tŷ

Mae'r heddlu yn ymchwilio wedi i ddyn 28 oed gael ei drywanu mewn tŷ ym Mhrestatyn nos Lun.

Cafodd plismyn eu galw i'r cartre' ar Rodfa'r De yn y dre' am 10:00pm, ar ôl adroddiadau bod dyn wedi cael ei anafu gydag arf miniog.

Credir fod nifer o bobl wedi mynd i mewn i'r adeilad ac wedi anafu'r dyn gyda'r arf.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth i'r heddlu i gysylltu â nhw ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.