Prynu siopau: 449 o swyddi'n ddiogel

Basged siopa Image copyright Getty Images
Image caption Roedd 449 o weithwyr yn cael eu cyflogi gan Harry Tuffins

Mae swyddi bron 500 o weithwyr cwmni y mae ei bencadlys ym Mhowys yn ddiogel.

Cyhoeddodd Midcounties Co-operative eu bod wedi prynu Harry Tuffins y mae eu siopau ym Mhowys, Sir y Fflint, Sir Amwythig a Sir Gaerloyw.

Mae pencadlys Harry Tuffins yn yr Ystog, Sir Drefaldwyn, a siopau yn yr Ystog, Machynlleth, Trefyclo a Threffynnon.

Dywedodd llefarydd ar ran teulu'r Delve oedd yn berchen ar y gadwyn siopau: "Rydym yn hyderus bod Midcounties Co-operative yn rhannu ein gwerthoedd ac y bydd y siopau'n chwarae rôl arbennig yn y gymuned."

Mae Prif Weithredwr Midcounties, Ben Reid, wedi dweud: "Fel mudiad sy'n eiddo i'r aelodau gyda gwerthoedd sy'n cynnwys democratiaeth, bod yn agored, cydraddoldeb a chyfrifoldeb cymdeithasol, rydym yn credu bod hyn yn cyd-fynd gydag ethos y teulu ar hyd y blynyddoedd."