Tŷ Tredegar: Agor fel eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Tŷ Tredegar Image copyright Other
Image caption Cafodd Tŷ Tredegar ei godi yn y 1670au

Bydd pennod newydd yn hanes Tŷ Tredegar yn cychwyn ddydd Mercher.

Mae'r tŷ hanesyddol, y gerddi a'r parcdir, a drosglwyddwyd i stiwardiaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gan Gyngor Sir Casnewydd ar Fawrth 19, yn cychwyn tymor newydd fel eiddo i'r Ymddiriedolaeth.

Bydd y Tŷ a'r Gerddi'n aros yn agored tan Hydref 21 a bydd y parcdiroedd yn aros ar agor o'r wawr tan y cyfnos gydol y flwyddyn.

Fe gynhelir yr agoriad swyddogol am 11.30am, pan fydd Phil Jones - crefftwr lleol a osododd giatiau'r fynedfa 25 mlynedd yn ôl ac sydd wedi gweithio ar yr adnewyddiadau presennol - yn torri'r rhuban yn y fynedfa newydd i ymwelwyr.

Seremoni agoriadol

Bydd Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Fiona Reynolds, Cyfarwyddwr Cymru'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Justin Albert, a staff uwch eraill yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bresennol hefyd, ynghyd ag uwch aelodau eraill o'r tîm prosiect a staff Tŷ Tredegar.

Bydd y seremoni agoriadol yn nodi dechrau rhaglen o ddigwyddiadau yn y tŷ a'r parc 90 erw - yn cynnwys y Cynhesu Aelwyd Mawr sydd i'w gynnal ar ddydd Sul, Mehefin 24.

Gydag agor Tŷ Tredegar fel eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fe ganiateir mynediad agored i'r tŷ am y tro cyntaf yn ei hanes.

Tŷ Tredegar yw un o'r enghreifftiau gorau o blastai 17eg ganrif Siarl II ym Mhrydain.

Bydd yr adeilad, sydd â rhannau'n dyddio'n ôl i ddechrau'r 16fed ganrif, ag arddangosfa newydd o hanes y tŷ ar Ebrill 4 ynghyd â gosodiadau arloesol eraill i ychwanegu at brofiad a mwynhad yr ymwelwyr wrth ymweld â'r eiddo.

Fe gynhelir digwyddiad 'Cynhesu Aelwyd' lle bydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gobeithio cyfarfod â'i gymdogion newydd, ar ddydd Sul, Mehefin 24 eleni.

Nod yr ymddiriedolaeth yw ceisio cynyddu nifer yr ymwelwyr o 25,000 bob blwyddyn i 100,000.

Yn ôl y trefniadau newydd bydd mynediad am ddim yn parhau i diroedd y Tŷ a hefyd lle chwarae'r plant.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.