Y Seintiau yn colli yn y cwpan am y tro cyntaf er 2008

Bydd y Drenewydd yn herio Lido Afan yn rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru eleni.

Curodd Y Drenewydd y deiliaid, Y Seintiau Newydd o un gôl i ddim yn ail gymal rownd gynderfynol Cwpan Cynghrair Cymru nos Fawrth.

Y Seintiau Newydd enillodd y cymal cyntaf 3-2 ond Y Drenewydd sy'n mynd drwodd o dan y rheol goliau oddi cartref yn dilyn eu buddugoliaeth ym Mharc Latham.

Roedd y canlyniad yn un annisgwyl oherwydd mai'r Drenewydd sydd ar waelod tabl Uwchgynghrair Cymru a'r Seintiau Newydd sydd ar y brig.

Lido Afan

Hwn fydd y tro cynta' i'r Drenewydd ymddangos yn rownd derfynol Cwpan Cynghrair Cymru.

Luke Boundford sgoriodd unig gôl yr ornest gyda dim ond pum munud o'r gêm yn weddill.

Chwalodd Y Drenewydd obeithion y Seintiau Newydd o ennill y cwpan am y bedwaredd tro o'r bron ac efelychu camp Y Bari (1997-2000).

Ddydd Sadwrn curodd Lido Afan Castell-nedd o 3-1 dros y ddau gymal i gyrraedd y rownd derfynol am y tro cyntaf er 1994.

Enillodd Lido Afan y cwpan ym 1993 a 1994 ac maen nhw'n ceisio cipio'r cwpan am y tro cyntaf ers hynny.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.