BBC Cymru Fyw

Casnewydd yn ennill

Published
image copyrightOther
Casnewydd 2-1 Caer Efrog
Enillodd Casnewydd tri phwynt gwerthfawr wrth iddynt guro Caer Efrog yn Uwchgynghrair Blue Square nos Fawrth.
Mae'r Alltudion ymysg y timau sy'n brwydro i osgoi'r cwymp ar ddiwedd y tymor.
Ond maen nhw wedi codi i'r 18fed safle yn dilyn eu buddugoliaeth ym Mharc Spytty.
Nat Jarvis sgoriodd gôl gynta'r gêm wedi 33 munud yn dilyn cic gornel gan Sam Foley.
Ond daeth yr ymwelwyr yn gyfartal chwe munud yn ddiweddarach pan rwydodd Patrick McLaughlin gyda chic rydd.
Romone Rose sgoriodd y gôl a enillodd yr ornest i'r Alltudion wedi 70 munud.
Ebrill 3 2012