Lluniau anweddus: Carcharu dyn

  • Cyhoeddwyd
Jeffrey GravellFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd Gravell yn euog o'r 44 o gyhuddiadau'n ei erbyn.

Mae rheolwr technoleg gwybodaeth ysgol uwchradd wedi ei garcharu am ddwy flynedd am ei fod yn euog o gynhyrchu ac o feddu ar bron 400,000 o ddelweddau anweddus o blant.

Hefyd roedd yn euog o ddwyn offer cyfrifiadurol.

Roedd Jeffrey Gravell, 54 oed o Borth Tywyn ger Llanelli, wedi gwadu cyhuddiadau.

Fe oedd y rheolwr technoleg gwybodaeth yn Ysgol Coedcae yn Llanelli a dywedodd y barnwr yn Llys y Goron Abertawe ei fod wedi torri ymddiriedaeth ar lefel uchel.

Clywodd y llys fod 700 o'r delweddau yn yr adran fwyaf difrifol. Cafwyd Gravell yn euog o'r 44 o gyhuddiadau'n ei erbyn.

Cydweithio

Clywodd y llys nad oedd wedi cyflawni unrhyw drosedd o'r blaen.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Coedcae eu bod wedi cydweithio'n llawn gyda'r heddlu yn ystod yr ymchwiliad.

"Does yna ddim tystiolaeth bod y delweddau yr ydym yn gwybod amdanyn nhw'n cynnwys unrhyw un o ddisgyblion Coedcae na phlant lleol," meddai'r ysgol mewn datganiad.

"Roedd y delweddau wedi eu darganfod ar gyfrifiaduron y cafwyd hyd iddyn nhw yng nghartref yr unigolyn.

"Ni chafwyd hyd i ddeunydd amhriodol ar gyfrifiaduron yn yr ysgol."

Roedd systemau diogelwch yn yr ysgol, meddai, yn atal deunydd amhriodol rhag cael ei lawrlwytho.

"Does dim tystiolaeth fod y systemau wedi methu. "