BBC Cymru Fyw

Heol yn ail agor wedi damwain

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionTrodd y lori ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.
Mae'r A487 rhwng Aberystwyth ac Aberaeron wedi ail agor ar ôl bod ynghau am oriau oherwydd damwain rhwng lori oedd yn cario cyrff anifeiliaid a char.
Trodd y lori, oedd yn teithio o Lanbed i Stoke, ar ei hochr ger pentref Blaenplwyf.
Aed â gyrwr y car i'r ysbyty rhag ofn.