Athro yn annog deintyddion i ofyn am arferion yfed

  • Cyhoeddwyd
DeintyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dywed y papur fod goryfed mewn pyliau yn costio'r Deyrnas Unedig tua £25 biliwn y flwyddyn.

Gall cwestiynau am arferion yfed cleifion helpu canfod problemau iechyd, yn ôl Athro o Gaerdydd.

Gall yfed gormod o alcohol arwain at ganser o'r geg, corn gwddf a'r bibell fwyd.

Mae'r Athro Jonathan Shepherd yn brif awdur papur ymchwil sy'n honni bod archwiliadau meddygol rheolaidd yn rhoi cyfle unigryw i ddeintyddion i ganfod y problemau iechyd hyn.

Dywed y papur fod goryfed mewn pyliau yn costio'r Deyrnas Unedig tua £25 biliwn y flwyddyn.

'Derbyn cyngor'

Yn ôl y papur a gyhoeddwyd yng Nghylchgrawn Deintyddol Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, mae un o bob pum dyn ac un o bob saith menyw yn y Deyrnas Unedig yn goryfed mewn pyliau yn rheolaidd.

Dywedodd Yr Athro Shepherd, sy'n Athro llawdriniaeth geneuol ym Mhrifysgol Caerdydd: "Y mater dan sylw yw bod gan y tîm deintyddol a deintyddion ddyletswydd i ofalu i gynnal iechyd cyffredinol cleifion.

"Mae'r deintydd yn rhan o'r tîm gofal iechyd cyffredinol.

"Rydym yn ymweld â'r deintydd i gael archwiliadau meddygol ac rydym yn gyfarwydd â derbyn cyngor gan y deintydd ynghylch ysmygu a deiet, fell mae'r syniad hwn yn estyniad naturiol.

"Mae canser a briwiau cyn-canseraidd o'r geg yn gyflwr meddygol prin ond maen nhw'n bwysig.

"Felly pan rydym yn cael archwiliad meddygol gan y deintydd mae ganddo gyfle i archwilio'r geg yn fanwl a chanfod unrhyw broblemau'n gynnar."

Ychwanegodd Yr Athro Shepherd y gallai hybu yfed cymedrol gan y deintydd gyfrannu at leihau'r problemau iechyd, economaidd a chymdeithasol sy'n gysylltiedig â cham-drin alcohol.

Yn ôl yr elusen Ymchwil Canser y DU, mae yfed alcohol yn achosi risg mawr o ganser y geg.

Yn ôl astudiaeth gafodd ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2011 roedd tua 37% o ganserau'r geg a gwddf ymysg dynion a 17% o'r un canserau ymysg menywod yn y DU yn gyswllt ag yfed alcohol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol