Hyfforddwr i ymuno â'r Teirw Coch
- Published
Mae dyn o Lanfairpwll yn Ynys Môn wedi ei ddewis o blith cannoedd o ymgeiswyr i ymuno ag Academi lwyddiannus Efrog Newydd Teirw Coch yn ddiweddar.
Mae Ioan Llewelyn, 31 oed, sy'n cyn rheolwr cynorthwyol a phennaeth datblygu ieuenctid tîm pêl droed Dinas Bangor, yn un o lond llaw o hyfforddwyr a gafodd eu dewis o bob rhan o Brydain yn dilyn dau gyfweliad yng Nghanolfan Chwaraeon Cenedlaethol Lloegr.
"Mae'n dipyn o gam i mi" meddai Llewelyn wrth y BBC.
"Ond mae'n gyfle i weithio gyda chlwb proffesiynol a chyfle i gael profiad hyfforddi gwych."
Thierry Henry
Ychwanegodd Ioan, a raddiodd o Ysgol Chwaraeon, Iechyd, a Gwyddorau Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor: "Byddaf yn gweithio gyda thua 100 o blant, bechgyn a merched, ac mi fydd gen i ddau hyfforddwr cymwysedig arall gyda mi a byddwn yn dilyn cyfres strwythur hyfforddi.
"Mae'r academi wedi ei chynllunio i sicrhau bod yna ddilyniant naturiol o'r academi i mewn i'r tîm Teirw yn gyntaf. "
Dywedodd James Hardy, Dirprwy Bennaeth yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer: "Mae bob amser yn wych gweld ein myfyrwyr yn rhagori ac mae yn braf iawn gweld bachgen lleol fel Ioan yn cael y cyfle yma.
"Cwblhaodd ei raddau israddedig a Meistr gyda ni ac yn ystod y cyfnod hwnnw roedd ei angerdd am hyfforddi a dod a'r dalent i'r amlwg i weld i bawb.
"Nid oes amheuaeth ei fod wedi ei roi'r sgiliau a'r profiad a ddysgodd wrth astudio yma ar waith, ond ei lwyddiant ef yw hyn.
"Rwyf wrth fy modd ei fod wedi llwyddo! "
Mae Teirw Coch Efrog Newydd yn dîm pêl-droed proffesiynol Americanaidd ac maent wedi ei leoli yn Harrison, New Jersey.
Maent yn cystadlu yng nghynghrair Pêl-droed America ac un o'u chwaraewyr mwyaf adnabyddus yw Thierry Henry.
Straeon perthnasol
- Published
- 6 Chwefror 2012
- Published
- 24 Ionawr 2012