Eira: Rhybudd i yrwyr mewn rhannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Lluniau lloeren o'r newid yn y tywydd yng Nghymru rhwng Mawrth 27 (chwith) ac Ebrill 2 (de)Ffynhonnell y llun, prifysgol Dundee/Neodass
Disgrifiad o’r llun,
Rhyddhaodd Prifysgol Dundee luniau lloeren o'r newid yn y tywydd

Dylai modurwyr yrru'n ofalus mewn mannau oherwydd eira, medd y cymdeithasau moduro.

Nos Fawrth roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am eira mewn rhannau o Gymru o fewn 24 awr.

Mae gwyntoedd o'r Arctig yn gostwng y tymheredd ac roedd proffwydi tywydd wedi dweud y gallai hi fwrw eira ar dir uchel, yn enwedig yn y gogledd a'r canolbarth.

Eisoes mae hyd at saith modfedd o eira yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Wrecsam.

Mae Bwlch yr Oernant wedi ei gau oherwydd eira rhwng Llangollen a Llandegla ac mae'r sefyllfa'n anodd iawn oherwydd eira ar yr A483 yn Wrecsam ger troad Rhiwabon, ac ar yr A525 ym Mangor Is y Coed.

Yng Nghonwy mae'r ffordd dros y topiau rhwng Llanrwst a Phentrefoelas wedi ei chau oherwydd eira drwy Nebo.

Mae 'na amharu ar fysiau yn Sir Ddinbych, gan gynnwys gwasanaethau X50, 95 a'r 5/X5.

Yr wythnos diwethaf roedd tanau gwair yn broblem fawr ar draws Cymru wrth i'r tymheredd gyrraedd 21.7C (71F).

'15 cm'

Y mis diwethaf oedd y mis Mawrth twymaf er 1957.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y disgwylir i law droi yn eira ar dir uchel wrth i aer oerach symud i'r de ar draws Lloegr a Chymru ddydd Mercher a dydd Iau.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Roedd eira ym Methesda ddydd Mercher

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd nos Fawrth: "Bydd rhwng 2 a 5 cm (1-4 modfedd) o eira yn debygol o ddisgyn ar rai mannau, yn bennaf yn uwch na 200 metr (600 troedfedd).

"Mae'n bosib y bydd gymaint â rhwng 10 a 15 cm (4 a 6 modfedd) yn disgyn ar dir sy'n uwch na 300 metr (1,000 troedfedd).

"Y disgwyl yw na fydd llawer o eira'n disgyn ar dir yn is na 200 metr."

Cawodydd gaeafol

Yn ôl y rhagolygon, gellir disgwyl cawodydd gaeafol gyda'r tymheredd yn dringo'n ôl yn raddol i'r cyfartaledd ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn erbyn dydd Iau.

Dywedodd dyn tywydd BBC Cymru, Derek Brockway: "Ni fydd yr eira'n disgyn ymhobman ac fe fydd y rhan fwyaf o'r eira'n disgyn ar dir uchel," meddai.

Yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, mae awdurdodau lleol yn barod am dywydd garw.

"Mae cyflenwadau halen yn dal yn uchel wedi gaeaf mwyn," meddai llefarydd.

Hefyd gan y BBC