Enwi dyn fu farw wedi damwain yng Nghaerdydd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw'r dyn 30 oed a fu farw wedi damwain ar ffordd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth.

Bu farw Nathan Evans, peiriannydd hunan gyflogedig o Heol Archer, Trelái, wedi i'w Ford Focus glas adael Heol Trelái cyn bwrw coeden.

Cafodd llanc 17 oedd yn y car ei anafu.

Disgrifir ei gyflwr fel un sefydlog.

'Bwlch anferth'

Dywedodd teulu Mr Evans: "Roedd Nathan yn dad, mab, ŵyr, brawd, ewythr, nai a ffrind gwych.

"Bydd y golled yn gadael bwlch anferth mewn bywydau pawb oedd yn ei adnabod.

"Roedd e'n meddwl y byd o'i blant, Mathew, 8 oed, ac Aimee-Leigh, 6 oed."

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ynghylch y digwyddiad ffonio'r heddlu ar 101, Taclo'r Tacle ar 0800 555111 neu uned yr heddlu yng Ngwaelod y Garth ar 02920 633438.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.