BBC Cymru Fyw

Andy Morrell yn arwyddo cytundeb newydd efo Wrecsam

Published
image copyrightPA
image captionFe fydd Andy Morrell yn parhau i chwarae am flwyddyn arall efo Wrecsam

Mae 'na hwb i Glwb Pêl-Droed Wrecsam wrth i'w chwaraewr reolwr Andy Morrell arwyddo cytundeb sy'n ymestyn ei gyfnod ar y Cae Ras i ddwy flynedd.

Pedair gêm yn unig y mae Morrell wedi ei golli ers dod yn rheolwr ar y clwb wedi ymadawiad Dean Saunders ym mis Hydref 2011.

Ar hyn o bryd mae'r Dreigiau yn yr ail safle yn Uwchgynghrair Blue Square, wyth pwynt y tu ôl i Fleetwood.

Mae Wrecsam yn gobeithio ennill dyrchafiad yn ôl i Gynghrair Lloegr ar ddiwedd y tymor.

Fe fydd cytundeb newydd Morrell, sy'n 37 oed, yn golygu y bydd yn parhau fel chwaraewr reolwr am dymor arall cyn canolbwyntio ar fod yn rheolwr y tîm.

"Dwi wrth fy modd," meddai ddydd Mercher.

Straeon perthnasol

  • Mickey a McNeil yn cefnogi Morrell