Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt am ehangu gwarchodfa natur

Tir Corsiog Magwyr (Llun gan Rob Waller) Image copyright Other
Image caption Cafodd y warchodfa gorsiog ei sefydlu yn 1963

Mae cadwraethwyr yn gobeithio ehangu gwarchodfa natur yn ne Cymru drwy brynu tir corsiog.

Fe fydd 11 o gaeau sy'n ffinio â Thir Corsiog Magwyr yng Nghil-y-coed yn cael eu gwerthu mewn ocsiwn ddiwedd y mis.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent bod 'na rywogaethau amrywiol a chyfoethog yn y 49 erw (20 hectar) o dir ym Morfa Gwent.

Mae'r ymddiriedolaeth am warchod y planhigion prin a'r bywyd gwyllt sydd yno.

"Mae 'na nifer o wahanol blanhigion yno," meddai'r Prif Weithredwr, Tom Clarke.

"Rydyn ni'n gyffrous iawn," ychwanegodd.

Blaenoriaethau

Mae'r ymddiriedolaeth yn amcangyfri' y bydd rhaid codi £300,000 er mwyn diogelu'r caeau a fydd yn cael eu gwerthu ar Ebrill 26.

"Rydym yn gwybod ein bod yn ceisio bod yn uchelgeisiol yma," meddai.

"Fe fydd rhaid i ni flaenoriaethu pa dir i fynd amdano, ond fe fyddem yn hoffi cael y cwbl."

Dywedodd y rheolwr cadwraeth Rebecca Price y byddai'r caeau yn cynyddu yn eu gwerth o fod o dan ofal yr ymddiriedolaeth.

"Fe fyddai'n drasiedi i ni eu colli," meddai.

Cafodd Tir Corsiog Magwyr ei greu gan yr ymddiriedolaeth yn 1963.

O ganlyniad i'r rhywogaethau sy'n byw yno, mae'r 89 erw (36 hectar) wedi cael eu nodi fel Ardal Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

Mae 'na ganolfan addysgol ar y safle sy'n croesawu dros 20,000 o blant yn y blynyddoedd diwethaf.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.