Cannoedd o gartrefi heb drydan
- Cyhoeddwyd

Collodd miloedd o bobl eu cyflenwad trydan yn dilyn eira trwm ddydd Mercher
Mae rhyw 500 o gartrefi yn y gogledd yn dal i fod heb drydan fore dydd Iau.
Yn ôl cwmni ScottishPower, y tywydd garw dros y dyddiau diwethaf sy'n gyfrifol am y problemau.
Mae 200 o beirianwyr yn ceisio datrys y broblem ac mae'r cwmni'n hyderus y bydd trydan gan ei holl gwsmeriaid erbyn diwedd y dydd.
Collodd miloedd o bobl eu cyflenwad trydan ddydd Mercher yn dilyn eira trwm a thywydd gwael.
Yn ôl ScottishPower roedd y broblem wedi effeithio Caernarfon, Ynys Môn ac arfordir Gogledd Orllewin Cymru.
Dywedodd y cwmni fod 500 o gartrefi yn dal heb gyflenwad trydan am 8.30am ddydd Iau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol