Cyfle i ddysgu mwy am hanes ysgol adar Gronant

  • Cyhoeddwyd
Ysgol parotiaid ym MagilltFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Credir i ysgol i barotiaid fodoli yng Ngronant

Mae gŵyl gerdded eleni yn cynnwys taith fydd yn rhoi cyfle i weld adeilad lle unwaith fu ysgol arbennig iawn.

Mae ymchwilwyr hanes lleol yn credu bod ysgol a fyddai'n dysgu parotiaid sut i siarad wedi bodoli ym mhentref Gronant, yn Sir y Fflint.

Mae llun ysgol debyg a fodolai ym mhentref Bagillt i'w weld mewn llyfr hanes lleol.

Carole Startin, o Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru, fydd yn arwain y daith i Gronant.

"Yn y 1800au cynnar roedd llongau yn dod ag anifeiliaid ac adar egsotig i'r porthladdoedd ym Mostyn a Lerpwl o leoedd fel y Caribî a De America," meddai Ms Startin.

"Daeth yn beth ffasiynol i bobl gael parotiaid a mwncïod fel anifeiliaid anwes.

"Credir i'r ysgolion yma gael eu sefydlu i ddysgu'r parotiaid sut i siarad a chanu er mwyn eu gwneud yn fwy difyr ac rydym yn credu roedd un o'r ysgolion yma yng Ngronant."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y daith yn mynd heibio'r adeilad lle allai'r ysgol fod wedi bodoli

Clywodd Ms Startin stori'r ysgol gyntaf gan Paul Parry, hanesydd lleol sydd wedi byw yng Ngronant am fwy na 30 mlynedd.

"Mynychais ddarlith hanes leol rai blynyddoedd yn ôl oedd yn cynnwys dangos sleid o dŷ yng Ngronant gyda chewyll adar tu allan iddo," meddai Mr Parry.

"Yr esboniad oedd mai ysgol i ddysgu i barotiaid sut i siarad ydoedd ac mae wedi aros yn fy meddwl byth ers hynny oherwydd ei bod yn beth mor anarferol."

Mae Fred Hobbs, 90, o Brestatyn, yn cytuno gyda'u hymchwiliadau.

"Rwy'n gwybod yr oedd yna ysgol i barotiaid ym Magillt gan fod llun ohono yn un o'm llyfrau hanes lleol," meddai.

"Byddai'n ddiddorol darganfod mwy am yr ysgolion yma oherwydd rwyf wedi clywed sôn am un yng Ngronant hefyd."

Rhoddir 1900 fel y dyddiad ar gyfer llun yr ysgol parotiaid ym Magillt.

Bydd y daith yn rhan o Ŵyl Gerdded flynyddol Prestatyn a Bryniau Clwyd sydd yn digwydd o 18 - 20 Mai.dd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol