BBC Cymru Fyw

Ymchwiliad: Dyn ag anaf difrifol i'w ben

Published

Mae dyn 27 yn yr ysbyty gydag anaf difrifol i'w ben wedi iddo gael ei ddarganfod yng nghanol tref Y Fenni fore Sul.

Cafwyd hyd i'r dyn am y tu allan i archfarchnad Tesco ar Ffordd Frogmore am 2.35am.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Neville Hall yn Y Fenni ac mae mewn cyflwr sefydlog.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.