Dechrau clirio'r tanwydd o long yn Llanddulas

  • Cyhoeddwyd
Llong yr MV Carrier fore IauFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Llong yr MV Carrier fore Iau

Dywed arbenigwyr eu bod ar fin dechrau'r gwaith o symud disel oddi ar fwrdd llong cargo yng ngogledd Cymru.

Roedd pryder am niwed i'r amgylchedd ar ôl i'r llong MV Carrier daro creigiau yn Llanddulas ger Bae Colwyn nos Fawrth.

Mae yna 24,000 litr danwydd yn parhau ar fwrdd y llong.

Eisoes mae peth o'r disel wedi gollwng, ond credir mai bach yw'r bygythiad i fywyd gwyllt yn yr ardal ar hyn o bryd.

Mae peiriannau a cherbydau arbennig wedi cyrraedd y safle er mwyn dechrau'r gwaith o adfer y llong.

Dywedodd Gareth Pritchard, Dirprwy Brig Gwnstabl Heddlu'r Gogledd: "Mae'r arbenigwyr wedi cyrraedd y safle ac yn gobeithio bydd y gwaith yn dechrau yn fuan.

"Rydym yn gofyn i'r cyhoedd gadw pellter diogel o'r safle."

Mae disgwyl i ddwy lôn ddwyreiniol yr A55 ailagor nos Iau, ond bydd cyfynyngiadau cyflymdra o 40 mya i'r ddau gyfeiriad.

Hefyd bydd y llwybr beic rhwng Llanddulas a Hen Golwyn yn parhau ar gau.

Bu'n rhaid cau'r A55 gerllaw er mwyn i'r gwasanaethau achub ddefnyddio'r ffordd.

Cafodd hofrenyddion achub eu galw hefyd.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Llun o'r llong fore Mercher

Achub

Cwmni PGC Demolition, sydd wedi ennill y cytundeb i symud yr olew.

Mae disgwyl i'r gwaith barhau tan ddydd Sadwrn.

Ail gymal y gwaith fydd symud y llong o'i safle presennol.

Cafodd saith aelod o griw'r llong, i gyd o Wlad Pwyl, eu hachub am 1am fore Mercher wedi i'r MV Carrier o'r Almaen daro'r creigiau yn ymyl Glanfa Jaynes yn Llanddulas ger Bae Colwyn nos Fawrth.

Roedd pryder y gallai mwy o olew lifo i'r môr ac mae Bae Lerpwl yn ardal gwarchod arbennig.

Mae arbenigwyr achub a llygredd yn asesu'r difrod a gallai'r achub bara am hyd at dair wythnos.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol