Gemau yn rhan o arddangosfa newydd yng Nghaerllion

Arddangosfa Gemau Zews yn Amgueddfa Lleng Rufeinig yng Nghaerllion Image copyright Other
Image caption Rheolwr: 'Amser delfrydol i gynnal yr arddangosfa'

Dros benwythnos Y Pasg mae Amgueddfa Lleng Rufeinig yng Nghaerllion yn taflu golau ar yr hen Gemau Olympaidd wrth gynnal arddangosfa "Gemau Zews".

Fe fydd 'na heriau chwaraeon, cwrs rhwystr yn yr ardd Rufeinig a helfa wyau ddydd Sul y Pasg.

"2012 yw'r flwyddyn ddelfrydol i gynnal arddangosfa am y gemau hynafol" meddai Dai Price, rheolwr yr amgueddfa.

'Llawn hwyl'

"Er i'r Gemau Hynafol gychwyn flynyddoedd maith yn ôl, rydyn ni'n dal i'w dathlu fel y gwelwn yn nigwyddiadau byd y chwaraeon eleni."

Yn ôl yr hanes, cafodd y gemau cyntaf yn Olympia eu cynnal gan y Brenin Iphastos o Elis.

Dywedodd yr Oracl yn Delphi wrtho mai'r unig ffordd o gael gwared ar bla ofnadwy yn ei deyrnas oedd cynnal gemau er anrhydedd i Zews .

Pan gynhaliwyd y gemau diflannodd y pla.

Cafodd y Gemau Hynafol eu cynnal yn Olympia am 1,000 o flynyddoedd a phan oresgynnodd y Rhufeiniaid parhaodd y gemau tan 394 OC.

Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd modern yn Athen yn 1896 oherwydd roedd y Ffrancwr Pierre de Coubertin yn credu y bydden nhw'n hybu heddwch drwy'r byd.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.