Gŵyl Gobaith yn ehangu i bedair noson

Steps Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Steps fydd prif artistid nos Lun yr ŵyl

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol fe fydd artistiaid yn heidio i ogledd ddwyrain Cymru ar gyfer diddanu'r cynulleidfaoedd a chodi arian at elusennau.

Mae Gŵyl Gobaith wedi mynd o nerth i nerth yn Sir y Fflint.

Eleni fe fydd yr ŵyl, dros benwythnos Gŵyl Banc mis Awst, yn ymestyn i bedair noson.

Mae grŵp Steps yn teithio ar hyn o bryd ar ôl dod yn ôl at ei gilydd wedi bwlch o 10 mlynedd, ac fe fyddan nhw'n perfformio yn yr ŵyl fydd ar dir Coleg Glannau Dyfrdwy / Prifysgol Glyndŵr yn Llaneurgain ger Yr Wyddgrug.

Dywedodd Rhys Meirion, sylfaenydd yr ŵyl ei fod yn edrych ymlaen at groesawu Steps i ogledd ddwyrain Cymru.

Nôl adre

"Fe fydd Steps yn perfformio nos Lun Awst 27," meddai.

"Nhw yw'r prif artistiaid y noson honno.

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Hayley Westenra fydd yn perfformio yn y noson agoriadol

"Fe fydd hi'n wych gorffen yr ŵyl gyda'r noson ychwanegol yma."

Mae un o aelodau'r band, Lisa Scott-Lee yn hen gyfarwydd â'r ardal gan ei bod yn enedigol o Sir Ddinbych ac mae Ian "H" Watkins wedi ymgartrefu yn Nyffryn Conwy.

Elusen Head to Heart fydd yn elwa o'r nos Lun.

Fe fydd yr ŵyl yn cychwyn nos Wener Awst 24 gyda'r soprano Hayley Westenra a bydd yr elw yn mynd i Ymchwil Canser DU.

Fe wnaeth Hayley berfformio yng Ngŵyl y Faenol yn 2003.

Comediwyr

"Mae'n bleser o hyd i ganu a pherfformio yng ngogledd Cymru," meddai.

"Mae'r gynulleidfa mor groesawgar ac mae'n rhan brydferth iawn o'r wlad."

Diwrnod llawn o berfformwyr fydd 'na ddydd Sadwrn er budd Ambiwlans Awyr Cymru.

Dydi union fanylion yr artistiaid ddim wedi eu cyhoeddi eto ond fe fydd yn debyg iawn i Live Aid.

Bydd cerddorion, bandiau a chomediwyr o Gymru yn perfformio yno.

Nos Sul bydd elusen CLIC Sargent yn elwa wrth i dri chanwr sydd wedi cymryd rhan y Phantom yn The Phantom of the Opera ymuno â Shan Cothi.

Y tri yw Earl Carpenter, John Owen-Jones a Glyn Kerslake.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.