Ian Woosnam yn cystadlu yn Y Meistri
- Cyhoeddwyd

Mae'r Meistri, pencampwriaeth golff fawr gynta'r flwyddyn, wedi dechrau yn Augusta.
Ian Woosnam, enillydd y Meistri yn 1991, ydi'r unig Gymro yn y gystadleuaeth.
Ar ddiwedd y rownd gytnaf gorffennodd y Cymro yn gydradd 83 gyda 77, 5 ergyd dros y safon.
Lee Westwood o Loegr oedd ar y blaen gyda 67, pump ergyd yn well na'r safon.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol