Dechrau clirio'r tanwydd o long yn Llanddulas
- Cyhoeddwyd

Fe allai hi gymryd drwy'r penwythnos i gwblhau'r gwaith o wagio tanc tanwydd llong yr MV Carrier yn Llanddulas ger Bae Colwyn.
Fe aeth y llong i drafferthion mewn gwyntoedd cryfion nos Fawrth.
Mae arbenigwyr wedi dechrau'r gwaith o symud 24,000 litr o danwydd.
Dim ond ar ôl symud yr olew bydd modd dechrau ar y gwaith o symud y llong.
Bu'r A55 ar gau am gyfnod ond mae wedi ail agor gyda chyfyngiadau cyflymdra o 40 mya.
Dywedodd Gareth Pritchard Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru y bydd y cyfyngiadau yn parhau mewn grym tra bod y tanwydd yn cael ei wagio.
Mae llwybr beic rhwng Llanddulas a Hen Golwyn yn parhau ar gau.
Eisoes mae peth o'r disel wedi gollwng, ond credir mai bach yw'r bygythiad i fywyd gwyllt yn yr ardal ar hyn o bryd.
Achub
Cwmni PGC Demolition, sydd wedi ennill y cytundeb i symud yr olew.
Ail gymal y gwaith fydd symud y llong o'i safle presennol.
Cafodd saith aelod o griw'r llong, i gyd o Wlad Pwyl, eu hachub am 1am fore Mercher wedi i'r MV Carrier o'r Almaen daro'r creigiau yn ymyl Glanfa Jaynes yn Llanddulas ger Bae Colwyn nos Fawrth.
Roedd pryder y gallai mwy o olew lifo i'r môr ac mae Bae Lerpwl yn ardal gwarchod arbennig.
Mae arbenigwyr achub a llygredd yn asesu'r difrod a gallai'r achub bara am hyd at dair wythnos.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd3 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012