BBC Cymru Fyw

Wrecsam 0-1 Alferton

Published
image copyrightOther

Wrecsam 0-1 Alferton

Mae gobeithion Wrecsam o orffen ar frig Uwchgynghrair Blue Square Bet mwy na heb ar ben ar ôl iddynt golli gartref yn erbyn Alferton.

Mae'r Dreigiau nawr wyth pwynt y tu ôl i Fleetwood, gyda dim ond pum gem yn weddill, gan gynnwys gem oddi cartref yn Fleetwood.

Bydd y tîm sydd ar frig yr adran yn sicrhau esgyniad i'r cynghrair, gyda'r pedwar tîm nesa yn gorfod cystadlu yn erbyn ei gilydd am yr un fraint.

Anthony Wilson sgoriodd unig gol y gêm ychydig cyn yr egwyl.

Er i berfformiad Wrecsam wella yn yr ail hanner dim ond ymdrech Jamie Tolley wnaeth fygwth gol yr ymwelwyr.

Bydd Fleetwood yn sicrhau'r bencampwriaeth pe baent yn ennill eu dwy gêm nesa.

Yr ail gêm fydd honno rhwng Fleetwood a Wrecsam ddydd Mawrth nesa.

Wrecsam: Mayebi, Ashton, Creighton, Wright, Keates, Tolley, Knight-Percival, Leslie, Wright, Morrell, Pogba.

Eilyddion: Maxwell, Westwood, Cieslewicz, Little, Ogleby.

Alferton: Stewart, Law, Franklin, Quinn, Kempson, Connelly, Brown, Moult, Arnold, Wilson, Cunnington.

Eilyddion: Streete, Deverdics, Mullan, Meadows, Clayton.

Ebrill 3 2012