Abertawe 0-2 Newcastle
- Cyhoeddwyd

Er i Abertawe fwynhau y rhan fwyaf o'r chwarae yn Stadiwm y Liberty, Newcastle oedd yn fuddugol o 2-0.
Hon yw'r drydedd gêm yn olynol i'r Elyrch golli, ond maen nhw'n parhau yn rhif 11 yn yr adran.
Papiss Cisse sgoriodd ddwywaith i Newcascle sy'n symud i'r pumed safle uwchben Chelsea.
Yn gynnar yn y gêm, yn dilyn pas gan Yohan Cabaye ergydiodd Cisse o 20 llath i guro Michel Vorm.
Cyfunodd y ddau chwaraewr i sgorio'r ail ar ôl yr egwyl.
Abertawe: Vorm, Williams, Taylor, Caulker, Rangel, Britton, Dyer, Routledge, Allen, Sigurdsson, Moore.
Eilyddion: Tremmel, Tate, Monk, Sinclair, McEachran, Gower, Graham
Newcastle: Krul, Santon, Simpson, Williamson, Perch, Cabaye, Ben Arfa, Gutierrez, Tiote, Cisse, Ba.
Eilyddion: Elliot, R Taylor, Ferguson, Tavernier, Abeid, Gosling, Sh Ameobi
Tabl Uwchgynghrair Barclays
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2012